Blog on the vote to trigger Article 50

February 01, 2017

The recent speech by the Prime Minister Theresa May has helped to clarify that the path she is leading the UK down is likely to make Britain little more than an annex of Trumpland. By turning her back on the possibility of the fullest participation in the European single market after Brexit she has made clear that her vision of Britain will entail a right wing free market future. That will create a country where workers’ rights are reduced, where inequality is increased and where narrow jingoism is celebrated.

That is a future I cannot vote for. It is also a future which a clear majority of my constituents do not support. The Supreme Court ruling has now made it clear that it is the constitutional duty of Parliament to vote on whether to trigger the Brexit process. In the referendum voters across the UK as a whole indicated that they wanted Britain to leave the EU, but not necessarily for the kind of hard Brexit the Conservative Government is now proposing.

In Cardiff West voters rejected Brexit by a larger percentage than the national leave vote. Whilst as an MP I must ultimately decide how to vote based on my own judgement, the fact that my constituents have given a clear message is important.

Theresa May has said that whatever happens in negotiations, Britain will leave the EU. Even if no deal is agreed and Britain is faced with the dire economic consequences that will ensue, the country is not allowed to change its mind. So we are at the crunch point for the country’s future.

I believe it is now quite clear that triggering article 50 will lead Britain on a road to the kind of economy and society I have never believed in. That is also the view of the majority of my constituents. Taken together, those two things mean that I cannot vote to trigger Article 50, and so I will vote against it when it is put to the Commons regardless of party whip.  If that is unsuccessful I hope that the Bill will be amended to reduce the damage and allow for a binding vote on the final deal.

I respect those who take the other view because of the overall referendum result, but I have come to the conclusion that the Government is intent on a disastrous direction of travel that becomes almost inevitable with the vote on Article 50, and that it is my duty to oppose it.


Mi wnaeth araith ddiweddar y Prif Weinidog ei gwneud hi’n amlwg i mi bod Theresa May yn arwain y Deyrnas Unedig ar lwybr a fydd yn troi Prydain yn ddim mwy nac atodiad i America Donald Trump. Gan droi ei chefn ar y siawns i gyfranogi gymaint a phosib yn y Farchnad Sengl ar ol ymadael a’r Undeb Ewropeaidd, mi wnaeth hi’n eglur bod ei gweledigaeth ar ran Prydain yn golygu dyfodol adain dde a masnach rydd. Mi fydd hynny’n creu gwlad lle gostyngir hawliau gweithwyr, lle cynnyddir anhafaledd, a lle dathlir jingoistiaeth cul.

Ni allaf bleidleisio dros y dyfodol hwn. Dydy mwyafrif clir fy etholwyr ddim yn cefnogi’r dyfodol hwn. Mae datganiad y GorUchaf Lys wedi eglurhau ei fod yn ddyletswydd gyfansoddiadol ar y Senedd i bleidleisio os dylwyd tanio’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, neu beidio.  Yn y refferendwm, dynododd pleidleiswyr ar draws y Deyrnas Unedig eu bod, ar y cyfan, eisiau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond nid o reidrwydd er mwyn y Brexit caled y mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn cynnig.

Yng Ngorllewin Caerdydd, gwrthododd y pleidleiswyr Brexit gan fwyafrif mwy na’r bleidlais gwladol dros adael. Er, fel Aelod Seneddol, mae’n rhaid i mi, yn y bôn, benderfynu sut i bleidleisio yn ol fy meirniadaeth fy hun, mae’r ffaith i fy etholwyr anfon neges clir yn bwysig.

Dywedodd Theresa May y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, beth bynnag a ddigwyddith yn y trafodaethau. Hyd yn oed os nad oes dêl yn cael ei chytuno a bod Prydain yn wynebu’r canlyniadau economaidd dybryd a fydd yn dilyn, nid oes gan Brydain siawns i newid ei meddwl.  Felly, rydym ni wrth drobwynt yn hanes y wlad.
Credaf ei bod hi nawr yn glir y bydd tanio Erthygl 50 yn rhoi Prydain ar lôn at y fath o economi a chymdeithas ni gredais i ynddi erioed. Dyna hefyd yw barn y mwyafrif o’m etholwyr. Efo’u gilydd, mae’r ddau beth yna’n golygu na allaf i bleidleisio i danio Erthygl 50, ac felly mi fyddaf yn pleidlesio yn ei erbyn pan ddaw o flaen Tŷ’r Cyffredin, beth bynnag yw chwip y Blaid. Os nad yw hynny’n llwyddiannus, gobeithiaf y caiff y ddeddf ei wella i leihau’r niwed a chaniatâu pleidlais rwymedig ar y ddêl terfynol.

Parchaf rheini sydd yn cymryd y farn arall oherwydd canlyniad y bleidlais gwladol, ond rydw i wedi dod i’r casgliad bod y Llywodraeth yn bwriadu dilyn lôn drychinebus a ddaw bron yn anochel efo’r bleidlais dros Erthygl 50, ac ei fod yn ddyletswydd arnaf i’w wrthwynebu.


I hope you find this helpful/Gobeithiaf fod hyn o gymorth.

Best wishes/Yn gywir,



Kevin